Cefndir a Diben
Diben Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) a Defnyddiau Bwyd Anifeiliaid a Fwriedir at Ddibenion Maethol Penodol (Diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) 2020/354) (Cymru) 2024 (y Rheoliadau hyn) yw:
· Rhoi effaith gyfreithiol i benderfyniad Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â Chymru, o blaid awdurdodi pump ar hugain o geisiadau ar gyfer ychwanegion bwyd anifeiliaid, ac un diwygiad i’r rhestr o ddefnyddiau o fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol neilltuol i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid yng Nghymru.
· Darparu trefniadau trosiannol i ganiatáu i stociau presennol o ychwanegion bwyd anifeiliaid penodol a awdurdodwyd yn flaenorol gael eu disbyddu oherwydd newidiadau labelu a/neu newidiadau i amodau awdurdodi, o ganlyniad i ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn.
Mae deddfwriaeth gyfatebol wedi’i llunio yn Lloegr a’r Alban. Bydd y ddeddfwriaeth yn dod i rym ar draws Prydain Fawr ar 20 Rhagfyr 2024.
Y weithdrefn
Negyddol.
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y 10 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg.
Yn rheoliad 2(1), ym mhedwaredd linell y testun Saesneg, mae’n cyfeirio at “Regulation 767/2009”, ond yn y lle cyfatebol yn y testun Cymraeg mae’n cyfeirio at “Reoliad (EC) Rhif 767/2009”. Yn ogystal, mae’n golygu, yn y testun Saesneg, ei fod yn datgan ar ddechrau’r ddarpariaeth honno fod i ymadroddion a ddefnyddir yn “Regulation 767/2009” yr un ystyr ag yn “Regulation (EC) No 767/2009” ond mae’r testun Cymraeg yn cyfeirio’n gyson at yr un ddeddfwriaeth yn y ddau le.
2. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg.
Yn rheoliad 4(1) yn y testun Saesneg, yn nheitl Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/897, mae’n datgan “and amending Regulations (EC) No 1444/2006, (EU) No 333/2010 and (EU) No 184/2011”. Mae hyn oherwydd bod EUR 2016/897 yn diwygio testun y Rheoliadau rhestredig eraill hynny. Felly, yn y testun Cymraeg, dylai ddefnyddio ymadrodd fel “ac sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1444/2006, (EU) Rhif 333/2010 ac (EU) Rhif 184/2011”. Fodd bynnag, mae'r ymadrodd “a Rheoliadau diwygio” yn cael ei ddefnyddio sy’n awgrymu’n anghywir i’r darllenydd mai’r Rheoliadau hynny a restrir sy’n gyfrifol am ddiwygio deddfwriaeth arall yn hytrach na bod yn destun diwygio gan EUR 2016/897.
3. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn.
Yn rheoliadau 13(4), 14(3) ac 16(3) yn y testun Saesneg, mae’n datgan “immediately before 20 December 2024”, ond yn y testun Cymraeg yn y darpariaethau hynny nid oes gair nac ymadrodd i’w gyfleu ar gyfer “immediately”. Ym mhob man arall, defnyddir yr ymadrodd “yn union” i gyfleu ystyr “immediately” yn yr un cyd-destun yn y testun Cymraeg, e.e., rheoliadau 12(1) a (2), a 13(2), (3) a (5). Felly, mae hefyd yn golygu bod y testun Cymraeg yn anghyson yn hyn o beth, gan awgrymu bod yr ystyr yn gwahaniaethu er bod y testun Saesneg yn union yr un fath ar bob achlysur.
4. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Ym mhennawd rheoliad 15, a ddylai fod cyfeiriad hefyd at y rhif(au) adnabod perthnasol fel y’u ceir ym mhenawdau’r darpariaethau trosiannol eraill yn y Rheoliadau hyn?
5. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn.
Yn Atodlen 8, yn y tabl, yn ail golofn y cofnod ar gyfer “Other provisions”, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a Saesneg. Yn y testun Saesneg, ym mhwynt 4, yn y pwynt bwled cyntaf ar gyfer y geiriau y mae’n rhaid eu datgan “Yn Saesneg”, yn y llinell olaf, mae’n datgan “level of essential trace elements”. Ond yn y testun Cymraeg, yn y pwynt bwled cyfatebol ar gyfer y geiriau y mae’n rhaid eu datgan “Yn Saesneg” mae’r gair “of” ar goll ac felly mae’n datgan “level essential trace elements”. Mae hyn yn bwysig gan mai dyma'r ffurf benodedig o eiriau y mae'n rhaid eu nodi ar label yr ychwanegyn a'r rhag-gymysgedd y cyfeirir atynt.
6. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn.
Yn Atodlen 11, yn y geiriau uwchben tabl y testun Saesneg, mae’n datgan mai’r categori ychwanegion yw “technological additives”, ond y geiriad yn y testun Cymraeg yw “ychwanegion technolegol” sy’n golygu “technical additives”. Yn ogystal, golyga hyn hefyd fod y categori ychwanegion a nodir uchod yn y testun Cymraeg yn wahanol i’r hyn a nodir yn ail golofn y cofnod “Categori ychwanegion”.
7. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Yn Atodlenni 12 a 13, yn y tablau, yn y cofnod ar gyfer “Darpariaethau eraill”, yn yr ail golofn, ym mhwynt 2, mae anghysondeb yn y testun Cymraeg. Yn y testun Saesneg, mae'n nodi “The additive may be used via water” ond mae ystyr “may” wedi’i fynegi’n wahanol yn nhestun Cymraeg y ddwy Atodlen. Yn Atodlen 12, mae’r testun Cymraeg yn mynegi “may” fel ystyr “is allowed to do so/ has legal discretion to do so” (“caniateir”) ond yn Atodlen 13 fe’i mynegir i olygu posibilrwydd yn y dyfodol “is possible to do so” (“gallu”). Dylai'r testun Cymraeg fod yn gyson gan fod y cyd-destun yr un fath yn y ddau le ac nid yw'n ymddangos bod unrhyw wahaniaeth ystyr yn nhestun Saesneg y ddwy Atodlen.
8. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Yn Atodlen 16, yn y cofnod ar gyfer “Nodweddiad y sylwedd(au) actif”/“Characterisation of the active substance” yn ail golofn y tabl, mae’r testun Saesneg yn nodi “with the following components”, ac yn y testun Cymraeg defnyddir y gair “elfennau” i gyfleu’r ystyr “components”. Mewn mannau eraill yn y tablau a geir yn yr Atodlenni, defnyddiwyd y gair “cydrannau” i fynegi ystyr “components”, e.e. Atodlenni 8, 9 ac 17. Felly, mae’n anghyson â thestun Cymraeg y tablau eraill yn yr Atodlenni. Yn ogystal, defnyddiwyd “elfennau” eisoes i fynegi ystyr “elements” yn y term gwyddonol “trace elements” yn yr Atodlenni. Felly, gall y defnydd o “elfennau” yn Atodlen 16 hefyd awgrymu i ddarllenydd y testun Cymraeg ei fod yn cyfeirio at “elements” yn hytrach na “components”.
9. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn.
Yn Atodlen 21 i’r testun Saesneg, mae’n nodi “Commission Regulation (EU) No 349/2010…” yn y pedwerydd cofnod ar gyfer dirymu, ond yn y testun Cymraeg yr ystyr a roddir yw “Commission Implementing Regulation (EU) No 349/2010…” (“Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 349/2010…”).
10. Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn.
Yn Atodlen 21 i’r testun Saesneg, mae’n nodi “Commission Implementing Regulation (EU) No 98/2012” fel yr wythfed cofnod ar gyfer dirymu. Yn nheitl y Rheoliad, mae'n cyfeirio at “weaned piglets, pigs for fattening and sows” ond yr ystyr a roddir yn y testun Cymraeg yw “piglets for fattening and sows” (“perchyll i’w pesgi a hychod”).
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phob un o’r pwyntiau adrodd.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
18 Rhagfyr 2024